Barn y ffan: Atgofion o gemau yn erbyn cyfandiroedd America

Gyda Chymru yn paratoi i wynebu Panama mewn gem gyfeillgar, dyma ni’n edrych yn ôl ar gemau’r gorffennol, a’r atgofion ddaw gyda nhw.

Gan Tommie Collins

Mae’r gêm gartref yn erbyn Panama wedi dal fy sylw i. Mae’n anarferol i ni wynebu timau tu allan o Ewrop, a hyd rŵan rydan wedi wynebu timau CONMEBOL, conffederasiwn pêl droed De America, dim ond pum gwaith a CONCACAF, conffederasiwn pêl droed Gogledd, Canolbarth America a’r Caribî, chwe gwaith.

Rydan wedi wynebu cymdogion Panama, sef Costa Rica dwywaith o’r blaen ac meddai cyn ymosodwr Cymru, Malcolm Allen, wrth Football Foyer bydd yn brofiad da i’r tîm hyfforddi a’r chwaraewyr.

“Roeddwn yn eilydd yn 1990 pan wnaethon gwrdd â Chosta Rica ar Barc Ninian, buddugoliaeth o 1-0  gyda Dean Saunders yn rhwydo. Roedd yn brofiad i wylio chwaraewyr â steil gwahanol, roedden yn chwarae’r gêm yn araf a thechneg dda ganddyn. Doedd neb yn gwybod llawer amdanyn, ond dipyn wedyn glaniodd Paulo Wanchope yn Uwchgynghrair Lloegr. Bydd yn dda i weld system a steil gwahanol a bydd yn dda i Chris Coleman cael gwrthwynebwyr sydd wedi mynd drwodd i Gwpan y Byd Rwsia a cheisio cael hyder pawb y nôl ar ôl  siom mis diwethaf. Mi wnes hefyd chwarae yn erbyn Canada, dwi ddeall mai’r un gêm ydy, ond coeliwch fi, oedd gan Ganada dull gwahanol o chwarae hefyd.

“Yn sicr y gêm hon ydy’r cyfle i roi gemau llawn gyntaf i Ethan Ampadu, David Brooks a’r dewin Ben Woodburn, buasai’n wirion i beidio defnyddio’r ddwy gêm nesa i arbrofi.”

Brasil

Ond i gefnogwr o fy’n oes i, Brasil oedd tîm y dydd, ac rwy’n cofio gwylio ffeinal Cwpan y Byd 1970, Brasil yn erbyn Eidal a gwirioni a phêl droed.

Felly pan drefnodd Cymru gêm yn erbyn y sêr o Dde America yn 1983 roedd rhaid i fi fynd. Ar yr adeg, oedd y daith i lawr i Gaerdydd yn antur yn ei hun. Roedden dal yn gorfod mynd drwy Lanidloes, lle’r oedd fel yr arfer seibiant bach yn y tŷ tafarn, ac roedden yn gorfod y ffordd hir mynd drwy Ferthyr oherwydd oedd y ffordd ddeuol sy’n bodoli rŵan heb ei hadeiladu. Gwnaethom dorri lawr ger Merthyr ac rwy’n cofio ni’n rhoi selotep du rownd y ‘tophose’ i gael y car nôl ar y ffordd.

Roedd yn wych i gael gweld sêr Brasil yn fyw, rwy’n cofio bod yn yr ‘Enclosure ‘ gyda fy wyneb ar y ffens i gael gweld drwodd. Roedd yn dipyn o gêm gyda Brian Flynn yn rhoi ni ar y blaen ar ôl pum munud ond ar ôl awr sgoriodd Paulo Isidoro i unioni’r sgôr.

Mi welais Gymru yn curo Brasil ar Barc yr Arfau yn 1991, gyda Dean Saunders yn sgorio’r gôl fuddugol. Ond siom oedd y drydedd waith, colli 0-3 yng Nghaerdydd cyn teithio i White Hart Lane yn 2005 i weld ni’n colli 2-0.

Mi chwaraeon Brasil yn Brasilia yn 1997, ac yn anffodus wnes ddim mentro, ond dwi’n cofio clywed hanes rhyw gefnogwr o Gymru yn mynd ac eistedd wrth ryw foi drwy’r ffleit. Ar ôl glanio mi ddywedodd rhywun wrtho mai ond y dyn i hun ar y pryd, sef Rivaldo, oedd ei bartner am y ffleit hir.

Y Cae Ras

Roedd y Cae Ras hefyd yn cael dipyn o ddefnydd gan y tîm cenedlaethol yn ei ddydd ac yn 1986 roedd Uruguay yn chwarae yno, rwy’n cofio ddim am y gêm gyfartal 0-0.

Mi welais ni’n chwarae Paraguay yn Stadiwm y Mileniwm yn 2006, dim llawer o gêm, ond mi fethais y gêm gyfartal yn erbyn Ariannin yn yr un stadiwm yn 2002, roeddwn wedi trefnu trip i Ffrainc â’r wraig i wylio Ffrainc – Rwmania. Nid oeddwn yn hapus pan drefnwyd y gêm hon, roedd unigolyn o Gymdeithas Pêl droed Cymru wedi gaddo na fydd Cymru â gêm. Roeddwn yn falch mai gem gyfartal 1-1 oedd y canlyniad.

Yn amlwg siom arall o fy ngyrfa’n gwylio Cymru, oedd peidio mynd i gwpan Kirin yn Japan yn Fehefin 1992, lle wnaethom gwrdd â’r Ariannin a cholli 0-1.  Roedden wedi trefnu i fynd i Rwmania yn fis Mai, felly oedd Japan allan o’r cwestiwn.

Sôn am anarferol, chwaraeodd Cymru dwy gêm gyfeillgar yn fis Fai 2006, oedd y gyntaf yn Bilbao yn erbyn Gwlad y Basg – gêm gyfeillgar gyntaf Ryan Giggs oddi gartref, tra roedd yr ail yn ddinas Graz, Awstria, yn erbyn Trinidad & Tobago. Roedd y gwrthwynebwyr yn yr un grŵp a Lloegr felly roedd dipyn o ddiddordeb yn y wasg Saesneg a Chymreig. Gêm gyntaf Gareth Bale oedd hwn, y chwaraewr ifancaidd i gynrychioli Cymru ar yr adeg.

America a’r noeth wibiwr

Teithiodd Cymru i America ar ddiwedd tymor 2003, roedd hon yn un o’r tripiau roedd rhaid mynd, dyma beth mae cefnogi pêl droed yn gynnig, cael teithio i lefydd anghyfarwydd, roedd y gêm yn San Jose, a cholli 2-0 wnaethom ni gyda Mathew Jones yn cael ei anfon o’r cae, ond roedd cefnogwyr Cymru wrth eu boddau yn cael y profiad o ymweld ag San Francisco, y fan hon oedd y lle i aros a gweld y bont enwog y Golden Gate a rhai’n ymweld ag Ynys Alcatraz. Mae dau beth yn sefyll allan am y daith hon, roedd noeth wibiwr (streaker) ar y cae yn ystod y gêm, cefnogwr Cymru a hyd heddiw mae dal yn gwylio Cymru. Mi wnes seiclo dros y Golden Gate, ond ar ôl dod adref wnes ddileu’r lluniau mewn camgymeriad. Atgofion wedi diflannu, am byth – am dwpsyn!

Mi chwaraeodd Cymru eto yn America yn 2012 yn erbyn Mecsico yn Efrog newydd, un o gemau cynnar y rheolwr presennol Chris Coleman, colli 2-0. Ond wnes i’m mentro, oedd fy nghlwb Chelsea yn ffeinal Pencampwyr Ewrop.

Am gywilydd arna i yn rhoi fy nghlwb, cyn fy ngwlad.

Advertisement

Author: Tommie Collins

Wales and Chelsea fan who has put the time and effort in over the years. Ground-hopper. Might be seen ranting about people jumping on the bandwagon from time to time.

%d bloggers like this: